FIN(4)-05-11 Paper 1

 

Pwyllgor Cyllid

 

 

Teitl – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13: Cyllideb Twf a Swyddi

 

 

Diben

 

1.     Cyhoeddwyd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13 ar 4 Hydref. Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o’r blaenoriaethau strategol sy’n sail i’n cynlluniau gwariant.

 

2.     Mae copi o Gynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2012-13, ynghyd â thablau Gweithredu ategol y Prif Grŵp Gwariant a’r Ddogfen Gyllideb, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn:

 

http://wales.gov.uk/funding/budget/draftbudget1213/?lang=cy

 

 

Y Cyd-destun Gwariant Cyhoeddus

 

3.     Mae Cyllideb Ddrafft 2012-13 yn nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf o 2012-13 i 2014-15. Wrth gyflwyno’r Gyllideb Ddrafft, rydym yn nodi, am y tro cyntaf, ein cynlluniau ar gyfer 2014-15, sef blwyddyn olaf setliad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ar gyfer 2010.

 

4.     Mae’r Adolygiad o Wariant, fel y’i haddaswyd gan Gyllideb mis Mawrth 2011 Llywodraeth y DU, yn pennu ein cyllideb ar gyfer cyfnod y Gyllideb Ddrafft. Yn gyffredinol, mewn termau real, bydd cyfanswm ein cyllideb Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) ar gyfer  2012-13 yn gostwng £430m, ac erbyn 2014-15, bydd y cyfanswm £1.95bn yn is nag yn 2010-11[1].

 

5.     Mae’r gostyngiad hwn mewn termau real yn cyferbynnu’n llwyr â’r twf yn y gyllideb a welwyd dros y degawd diwethaf rhwng sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 a 2009-10. Yn y cyfnod hwn, cynyddodd cyllideb adnoddau cyllidol DEL Cymru £4.9bn mewn termau real. Erbyn 2014-15 bydd cyllideb Cymru £1.3bn yn is mewn termau real na phan oedd ar ei huchaf yn 2009-10 a thua’r un lefel ag yr oedd yn 2005-06. Rydym wedi dysgu ymdopi’n dda o fewn yr adnoddau hyn, ond mae’r gostyngiadau cyson yn mynd i barhau i roi straen ar bob gwasanaeth cyhoeddus.

 

6.     Mewn termau real, bydd ein cyllidebau cyfalaf yn 2012-13 9.9% yn is nag yn 2011-12. Mae hyn yn cymharu â gostyngiad o 28.6% yn 2011-12. Fodd bynnag, ni ddylid diystyru effaith gronnol y gostyngiadau hyn. Mewn termau real, hanner ei lefelau yn 2009-10 fydd ein cyllideb cyfalaf ar gyfer 2014-15. Nodir y tueddiadau termau real hyn yng nghyllideb Cymru yn y ddau siart canlynol.

 

Siart 1.1 – Terfyn Gwariant Adrannol Adnoddau Cyllidol Cymru mewn Termau Real ers Datganoli (prisiau 2010-11)

 

£ Million - £ Miliwn

Financial Year– Blwyddyn Ariannol

 

Siart 1.2 – Terfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf Cymru mewn Termau Real ers Datganoli (prisiau 2010-11)

 

 

 

£ Million - £ Miliwn

Financial Year – Blwyddyn Ariannol

 

Rhaglen Lywodraethu

 

7.     Lansiwyd y Rhaglen Lywodraethu gan y Prif Weinidog ar 27 Medi. Mae’n nodi’r camau gweithredu a roddir ar waith gan y Gweinidogion, sut y byddwn yn mesur cynnydd a pha ganlyniadau y dymunwn eu gweld ar gyfer pobl Cymru.

 

8.     Mae ein gwaith ar baratoi’r Gyllideb eleni wedi canolbwyntio ar gysoni ein cynlluniau gwariant â’r weledigaeth ar gyfer Cymru a amlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu. Roedd y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn flaenorol yn darparu llwyfan i allu gwneud hyn ac maent yn parhau’n sylfaen gadarn er mwyn cyflawni’r Rhaglen Llywodraethu.

 

9.     Mae Cynigion y Gyllideb Ddrafft 2012-13 yn dangos sut y byddwn yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu a sut y mae Adrannau wedi cysoni eu cyllidebau er mwyn symud yr agenda uchelgeisiol hon yn ei blaen er lles Cymru.

 

 

Blaenoriaethau Strategol

 

10.  Wrth wraidd y Rhaglen Lywodraethu, mae ein gweledigaeth am economi fwy llewyrchus gyda gwasanaethau cyhoeddus gwell, a mwy effeithlon sy’n galluogi pobl i wireddu eu potensial a rhoi o’u gorau i’r gymdeithas a’r economi. Mae sicrhau twf yn yr economi a chreu a chynnal swyddi yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth. Dyma sy’n tanategu llawer o’r gwaith a wnawn a dyma sydd wedi llywio’r cynlluniau Cyllidebol a gyflwynais yr wythnos ddiwethaf.

 

11.  Mae hybu twf economaidd yn gymhleth – fel Llywodraeth, gallwn weithredu, ond mae’n dibynnu hefyd ar ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Mae’n gyfrifoldeb arnom i ddefnyddio’r holl ddulliau o adfywio’r economi sydd ar gael i ni a chreu cyfleoedd gwaith. Yn y Gyllideb, rwy’n nodi ein dull triphlyg o wneud hyn:

 

·      Rydym yn darparu cymorth uniongyrchol ac wedi’i dargedu i fusnesau Cymru. Dros dair blynedd y Gyllideb, rydym yn cynnal y buddsoddiad refeniw a ariannir drwy’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

·      Rydym yn darparu cymorth mewn meysydd polisi sy’n cyfrannu at greu’r amodau angenrheidiol ar gyfer twf economaidd – addysg, cymorth cyflogaeth, sgiliau ac iechyd.

 

·      Yn olaf, gallwn ddarparu cymorth drwy fuddsoddiadau cyfalaf. Dyma ddull allweddol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, a hefyd ar gyfer buddsoddi yn yr economi.

 

12.  Y dull hwn sy’n tanategu’r dyraniadau ychwanegol a wnaethom yn y Gyllideb Ddrafft a’r penderfyniadau gwariant a wnaed gennym. Mae hon yn Gyllideb Twf a Swyddi a fydd yn cefnogi cyflawniad ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol.

 

 

Cynigion y Gyllideb

 

13.  Mae Dogfen y Gyllideb Ddrafft yn egluro’n fanwl y dyraniadau ychwanegol a wnaethom i gefnogi ein blaenoriaethau strategol. Maent yn cynnwys:

 

Pump am Ddyfodol Tecach

 

14.  Mae ein hymrwymiadau Pump am Ddyfodol Tecach yn allweddol er mwyn cyflawni ein huchelgais gogyfer â thwf economaidd. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn dyrannu £129 miliwn ychwanegol i gefnogi ein haddewidion Pump am Ddyfodol Tecach.

 

·      buddsoddi £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn ein cynllun Twf Swyddi Cymru. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi 4,000 o bobl ifanc bob blwyddyn drwy gynnig hyfforddiant addas a chyfleoedd am swyddi ac yn  cyfuno arian gan Lywodraeth Cymru a chymorth Ewropeaidd;

 

·      £27 miliwn ychwanegol ar gyfer gwariant rheng flaen mewn ysgolion er mwyn cynnal ein hymrwymiad i gynyddu’r cyllid ysgolion 1% uwchben unrhyw newidiadau i gyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd. Golyga hyn y byddwn wedi buddsoddi £185 miliwn ychwanegol mewn ysgolion dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant;

 

·      cyllid ychwanegol o £5 miliwn yn 2013-14 a 2014-15 i sicrhau 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yr Heddlu yng Nghymru; a

 

·      £55 miliwn dros dair blynedd i ehangu cynllun llwyddiannus Dechrau’n Deg i helpu 18,000 yn rhagor o blant.

 

 

Buddion Cyffredinol

 

15.  Buddsoddiad yng ngwead cymdeithasol ein cymdeithas yw buddion cyffredinol. Maent yn ymwneud â sicrhau fod gan bawb y modd o chwarae rhan lawn yn y gymdeithas a chyfrannu at ein hamcanion economaidd. Mae’r gwasanaethau hyn hefyd yn cynnig achubiaeth i bobl sy’n dioddef effeithiau’r pwysau ariannol presennol. Yn y Gyllideb hon, rydym wedi parhau’r amddiffyniad a roddir i fuddion cyffredinol ac wedi ymestyn yr amddiffyniad hwnnw dros flwyddyn olaf cyfnod y Gyllideb hon. Golyga hyn ein bod wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant.

 

 

Cynnydd yng nghyllid y GIG

 

16.  Elfen allweddol arall yn ein Rhaglen Lywodraethu yw GIG cryf sy’n darparu gwasanaethau o safon uchel i bobl Cymru. Mae’n hollbwysig i iechyd a lles pobl Cymru yn y tymor hwy ac i’w gallu i chwarae rhan lawn yn yr economi. Rydym yn buddsoddi £288 miliwn yn fwy yn y GIG dros y tair blynedd nesaf a’r disgwyl yw y bydd hyn yn creu sylfaen ariannol gynaliadwy ar gyfer y GIG. Daw hyn ar ben y dyraniad a gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

 

 

Buddsoddiad Cyfalaf

 

17.  Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithredu i wneud y gorau o fuddsoddiadau cyfalaf y Llywodraeth. Gwnaed hyn er gwaethaf gostyngiadau sylweddol gan Lywodraeth y DU. Yn flaenorol, rydym wedi symud prosiectau cyfalaf ymlaen, wedi trosglwyddo refeniw i gyfalaf, ac wedi mabwysiadu dull mwy strategol o fuddsoddi ein hadnoddau cyfalaf cyfyngedig drwy’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog.

 

18.  Yn Nogfen y Gyllideb, rwy’n amlinellu’r camau pellach yr wyf yn eu rhoi ar waith. Nodais fy nghynigion gogyfer â Chynllun Seilwaith Cenedlaethol, i bennu ein blaenoriaethau buddsoddi a nodi cynlluniau a rhaglenni o bwys cenedlaethol. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i archwilio pob cyfle i hybu buddsoddiad yn seilwaith Cymru drwy ddetholiad o ddulliau arloesol. Rydym yn gweithio’n agos â llywodraeth leol a phartneriaid eraill i wneud y gorau o’n gallu i fenthyca er mwyn hybu buddsoddiad yn seilwaith y sector cyhoeddus dros y blynyddoedd i ddod.

 

 

Yr Effaith ar Gydraddoldeb

 

19.  Mae cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y Gyllideb Ddrafft. Y llynedd, cyhoeddwyd asesiad cynhwysfawr o effaith penderfyniadau cyllidebol ar gydraddoldeb. Eleni, bu’r ffocws ar asesu effaith newidiadau i gynlluniau blaenorol a lle mae cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu. Mae’r manylion llawn i’w gweld yn Nogfen y Gyllideb.

 

 

Cynnig Cyllidebol

 

20.  Fel y soniwyd o’r blaen, bwriadaf ddiwygio fformat y cynnig Cyllidebol eleni er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Llywodraeth reoli adnoddau’n effeithiol, tra’n cynnal atebolrwydd a thryloywder. Cyhoeddais Gyllideb Ddrafft ac rwy’n croesawu eich barn arni fel rhan o’ch adroddiad Cyllidebol. Ochr yn ochr â’r gwaith craffu hwn, bydd ein swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r protocol a gytunwn gogyfer â chodeiddio cyfundrefnau sy’n gysylltiedig â’r dull newydd o ymdrin â’r cynnig cyllidebol.

 

 

Crynodeb

 

21.  Dyma Gyllideb Twf a Swyddi yng Nghymru sy’n adeiladu ar y llwyfan o gynlluniau gwariant y cytunwyd arnynt y llynedd. Nid yw’r Gyllideb hon yn dechrau o’r dechrau, ond mae’n rhoi’r cymorth sydd ei angen arnom i ysgogi twf economaidd a chreu swyddi. Mae’r cynlluniau’n dangos sut y byddwn yn defnyddio’r cyllid sydd ar gael i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu.

 

22.    Mae craffu ar ein cynlluniau gwariant yn gam pwysig yn y broses gyllidebol o ran datblygu a phrofi ein cynlluniau. Croesewais y cyfle i wneud datganiad llafar a rhoddodd y drafodaeth a ysgogodd hynny gychwyn ar y broses graffu. Edrychaf ymlaen at glywed barn y Pwyllgor ar ein cynigion cyllidebol, ac at ystyried y dystiolaeth a’r adborth gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid.



[1] Ac eithrio dibrisiant